YSGOLION

Mae Ysgolion Gwynedd yn gyfrifol am 25% o allyriadau carbon Cyngor Gwynedd. Mae hyn o ganlyniad i'r trydan a'r tanwydd sy'n cael eu defnyddio i bweru offer a gwresogi'r Ysgolion.

Rhyddhaodd Ysgolion Gwynedd 5,864 tunnell o CO2 i'r atmosffer y llynedd. Mae hyn yn ddigon i lenwi 5,864 balwn aer poeth neu 35,184 bws deulawr! Mae hi'n hanfodol, felly, ein bod yn gwneud ein gorau i sicrhau nad oes ynni yn cael ei wastraffu yn ein Hysgolion.

Er mwyn gwneud hynny, mae'n bwysig ein bod yn defnyddio'r prosesau isod. Cliciwch ar y dolenni er mwyn cael mwy o wybodaeth:

  • Monitro - mae'n rhaid i ni wybod faint o ynni sydd yn cael ei ddefnyddio yn ein Hysgol. Os nad ydym yn gwybod faint ydan ni'n ei ddefnyddio, a phryd, nid oes modd i ni fesur faint sydd yn cael ei wastraffu / arbed
  • Archwilio - rhaid cynnal archwiliadau er mwyn gweld ble'r ydym yn defnyddio ynni a phryd. e.e. i nodi pa offer sydd ym mhob ystafell
  • Gweithredu - dyma ble'r ydym yn ceisio arbed ynni. Pan rydym yn archwilio, rydym yn cael cyfle i weld os oes modd arbed ynni.

Mae mwy o fanylion ac adnoddau i helpu'ch ysgol arbed ynni drwy ddilyn y dolenni isod:  

                                                                                     

       Llun gan Freepik o wefan www.flaticon.com

                                                                  school                 

Cyngor Carbon Isel > Gwynedd Carbon Isel

Cysylltu â ni

01286 679266

Uned Cadwraeth Ynni, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH