Beth yw Effaith CO2 ar yr Atmosffer?

Mae CO2 yn ein hatmosffer, ac rydym ni, fel anifeiliaid, yn anadlu ocsigen, ac allanadlu carbon deuocsid. Mae planhigion fel arall - maent yn anadlu CO2 ac allanadlu ocsigen.

Pam mae gwres yr haul yn taro'r ddaear, mae'n bwysig nad ydi'r holl wres yn dianc allan o'r atmosffer eto gan y byddai'r ddaear yn rhewi drosto petai hyn yn digwydd. Mae CO2 a lleithder yn yr atmosffer yn gymorth i gadw ychydig o wres yr haul i mewn er mwyn cadw'r byd yn gynnes. Dyma'r ydym ni'n ei alw yn 'Effaith Tŷ Gwydr'.

Dros y blynyddoedd diwethaf, ers y chwyldro diwydiannol, rydym wedi bod yn llosgi llawer mwy o danwydd ffosil, ac felly'n rhyddhau llawer mwy o CO2 i'r atmosffer. Mae hyn yn golygu bod mwy o wres yr haul yn cael ei gaethiwo yn yr atmosffer, ac mae tymheredd yr aer a'r ddaear felly yn cynhesu mwy nag y dylent. 'Cynhesu Byd-eang' yw'r term am hyn.

Fel mae'r ddaear yn cynhesu, mae rhewlifoedd a mynyddoedd rhew yn toddi, ac mae'r dŵr yma yn llifo i'r môr. Yn ogystal, mae'r môr hefyd yn ymledu gan ei fod yn cynhesu. Mae hyn yn golygu bod lefel y môr yn codi.

Wrth i'r ddaear a'r aer gynhesu, mae mwy o leithder yn yr aer sydd yn cael effaith mawr ar y tywydd. Rydym yn gweld mwy o law trwm a llifogydd, a chyfnodau hir o sychder. Mae CO2 hefyd yn effeithio ar asidedd y môr, ac ar gynefinoedd anifeiliaid a phlanhigion.

Dyma pam ei bod yn bwysig i ni geisio lleihau lefelau'r CO2 yr ydym ni'n gyfrifol am ei ryddhau i'r atmosffer - fel nad ydym yn cyflymu'r broses yma'n fwy na sydd raid.

Tudalen Nesaf - Beth yw ôl troed carbon?

Cyngor Carbon Isel > Gwynedd Carbon Isel

Cysylltu â ni

01286 679266

Uned Cadwraeth Ynni, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH