Beth Yw Ynni?

Ynni yw'r gallu i wneud gweithgaredd, boed yn symudiad, sŵn, goleuo, gwresogi neu oeri.

Daw ynni/egni mewn gwahanol ffurfiau - gwres; golau; trydan; cemegol; niwclear; cinetig; a sŵn.

 

Mathau o Ynni

Rydym yn defnyddio dwy ffynhonnell wahanol i bweru pethau: ynni adnewyddadwy ac ynni anadnewyddadwy.

Ynni Adnewyddadwy

Daw ffynonellau ynni adnewyddadwy o bethau na fydd byth yn rhedeg allan, a gallwn eu defnyddio dro ar ôl tro. Mae ffynonellau ynni adnewyddadwy yn cynnwys:

 
  • Ynni solar o'r haul
  • Ynni gwynt
  • Pŵer dŵr o argae melinau dŵr
  • Biomas o blanhigion
  • Ynni geothermol o wres a ddaw o grombil y Ddaear                                                  
modern-windmill llwyd 128 

Rydym i gyd yn cael ein hannog i ddefnyddio mwy a mwy o ffynonellau ynni adnewyddadwy, gan eu bod yn iachach i'n planed.                                                                                                       

Ynni Anadnewyddadwy

Daw'r rhan fwyaf o'n hynni o ffynonellau ynni anadnewyddadwy, sef ffynonellau a fydd, rhyw ddiwrnod, yn rhedeg allan, ac na fyddwn yn medru eu hailgreu.

 
mine-cart llwyd 128    

Mae'r rhain yn cynnwys y tanwyddau ffosil - olew, nwy naturiol a glo. Cânt eu galw'n danwyddau ffosil am eu bod wedi cael eu creu o ddeunyddiau planhigion ac anifeiliaid dros filiynau a miliynau o flynyddoedd.

Ffynhonnell ynni arall anadnewyddadwy yw Wraniwm. Mewn Gorsafoedd Ynni Niwclear (fel Wylfa a Trawsfynydd) caiff atomau Wraniwm eu hollti i greu trydan, mewn proses o'r enw holltiad niwclear.

Cawn ein hannog i ddefnyddio llai ar ffynonellau ynni anadnewyddadwy, yn enwedig tanwyddau ffosil, gan eu bod yn mynd yn brin.    

                                                                                    

Tudalen nesaf - O Ble Daw Ynni?

Lluniau gan Freepik a Gregor Cresnar, oddi ar wefan www.flaticon.com

Cyngor Carbon Isel > Gwynedd Carbon Isel

Cysylltu â ni

01286 679266

Uned Cadwraeth Ynni, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH