Sut mae mesur CO2?

Rydym yn mesur CO2 mewn pwysau - kg neu dunelli. Mae hi'n anodd dychmygu faint yw kg neu dunnell o CO2 gan nad ydym yn gallu ei weld.

Byddai un tunnell o CO2 yn ddigon i lenwi 1 balŵn aer poeth, neu chwe bws deulawr ('double decker').

Rydym yn gwybod faint o CO2 mae gwerth 1kWh (uned o ynni) o danwyddau gwahanol yn ei gynhyrchu ac, felly, er mwyn cyfrifo ôl troed carbon, rhaid i ni luosi'r ffigwr hwn gyda'r nifer o kWh sydd wedi ei ddefnyddio ar gyfer bob un tanwydd.

Pan fyddwn yn llosgi'n tanwydd ein hunain, er enghraifft rydym yn llosgi nwy neu olew mewn boiler i gynhesu'r tŷ, mae'r CO2 yn cael ei ryddhau yn y fan a'r lle, h.y. allan o ffliw'r boeler.

Mae defnyddio trydan fymryn yn wahanol - er ein bod yn defnyddio'r trydan ar ein safle, mae'r CO2 yn cael ei ryddhau yn y man ble mae'r trydan yn cael ei gynhyrchu, sef yr orsaf bŵer.

          hot-air-balloon llwyd 128.                                                  double-decker-bus 2 llwyd 64   double-decker-bus 2 llwyd 64   double-decker-bus 2 llwyd 64   double-decker-bus 2 llwyd 64   double-decker-bus 2 llwyd 64   double-decker-bus 2 llwyd 64

 

Tudalen Nesaf - Beth yw effaith CO2 ar yr atmosffer?

Lluniau gan Freepik o wefan www.flaticon.com

Cyngor Carbon Isel > Gwynedd Carbon Isel

Cysylltu â ni

01286 679266

Uned Cadwraeth Ynni, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH