Monitro a Thargedu

Mae Cyngor Gwynedd yn defnyddio dull o'r enw 'Monitro a Thargedu' er mwyn ceisio lleihau defnydd o ynni.

Golyga hyn bod defnydd ynni adeiladau yn cael eu monitro yn agos - bob hanner awr ar gyfer rhai o'n hadeiladau. Mae ein Swyddogion Cadwraeth Ynni yn defnyddio'r wybodaeth yma er mwyn darganfod os oes unrhyw ddefnydd ynni anghyffredin. Er enghraifft, rhywbeth ymlaen dros nos, neu ddefnydd o ynni adeilad yn cynyddu.

Pan mae defnydd ynni adeilad yn cynyddu, bydd rhaid ymchwilio er mwyn darganfod pam fod hyn wedi digwydd. Gan amlaf,  mae rheswm da dros hyn (e.e. yr adeilad yn agored am amser hirach, neu wedi cael offer newydd), ond os nad oes rheswm yna mae'n bosib fod offer wedi torri neu angen ailosod rheolyddion. Bydd y Swyddogion Cadwraeth Ynni yn rhoi sylw i'r safleoedd a chanddynt ddefnydd ynni anghyffredin ac yn eu helpu i leihau'r ynni sydd yn cael ei wastraffu, ac o ganlyniad, yn lleihau eu biliau ynni!

Tudalen nesaf - Syniadau Arbed Ynni

Cyngor Carbon Isel > Gwynedd Carbon Isel

Cysylltu â ni

01286 679266

Uned Cadwraeth Ynni, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH