Cynllun Rheoli Carbon

Ers 2010, mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn gweithredu Cynllun Rheoli Carbon er mwyn lleihau'r effaith y mae ein gweithgareddau yn ei gael ar ein hamgylchedd.

Hyd yma, mae'r Cyngor wedi llwyddo i leihau ei ôl troed carbon o 34.5%, ac wedi arbed £4m mewn costau refeniw.

Rydym wedi gwneud hyn drwy weithredu nifer o brosiectau i leihau'r angen i ddefnyddio ynni; trwy ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon a thrwy ddefnyddio ynni adnewyddol. Ceir rhagor o fanylion am y prosiectau hyn ar y dudalen nesaf.

Y cam nesaf yw lleihau ein ôl troed carbon ymhellach dros y blynyddoedd nesaf.

Cyngor Carbon Isel yw’r cam cyntaf at Wynedd Garbon Isel

Oes gennych chi syniad am sut y gallwn leihau ein ôl troed carbon? Rhannwch eich syniadau â ni drwy gwblhau'r holiadur Gwynedd Carbon Isel.

Tudalen nesaf - Prosiectau Cyngor Gwynedd

Cyngor Carbon Isel > Gwynedd Carbon Isel

Cysylltu â ni

01286 679266

Uned Cadwraeth Ynni, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH