Cyngor Gwynedd                                            

Mae Cyngor Gwynedd yn darparu nifer o wasanaethau i drigolion y Sir. Er mwyn cyflawni'r gwasanaethau hyn, digwydd nifer  o weithgareddau'n cael effaith ar ein hamgylchedd drwy ryddhau CO2.

Rydym wedi mabwysiadu Cynllun Rheoli Carbon er mwyn ceisio lleihau'r effaith yr ydym yn ei gael ar yr amgylchedd.

Mae ôl troed carbon Gwynedd yn cynnwys y CO2 yr ydym yn ei ryddhau i'r atmosffer o ganlyniad i'r:

  • trydan sydd yn cael ei ddefnyddio yn ein adeiladau
  • tanwydd sydd yn cael ei ddefnyddio i wresogi ein hadeiladau
  • trydan sydd yn cael ei ddefnyddio i oleuo ein strydoedd
  • tanwydd sydd yn cael ei ddefnddio yn ein fflyd o gerbydau, e.e. lorïau gwastraff ac ailgylchu
  • tanwydd y mae staff yn ei ddefnyddio yn eu ceir personol wrth deithio ar fusnes
  • allyriadau CO2 o ganlyniad i'r gwastraff sydd yn cael ei gynhyrchu ar ein safleoedd

Mae ein safleoedd ni'n cynnwys oddeutu 800 o adeiladau ar tua 500 o safleoedd. Mae'r rhain yn cynnwys:

 
  • Ysgolion (sy'n gyfrifol am tua 25% o'n hallyriadau CO2)
  • Canolfannau Hamdden
  • Cartrefi Preswyl
  • Swyddfeydd
  • Llyfrgelloedd
  • Storfannau Priffyrdd
  • Canolfannau Ailgylchu
  • A mwy...                                                                                                                                           
Logo Cyngor Gwynedd 

Tudalen nesaf - Cynllun Rheoli Carbon                                                                                                         

 

Cyngor Carbon Isel > Gwynedd Carbon Isel

Cysylltu â ni

01286 679266

Uned Cadwraeth Ynni, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH