Beth yw CO2?                                               

Mae carbon ynom i gyd. Yn aml, fe fydd atomau o garbon yn ymuno gydag atomau eraill er mwyn creu rhywbeth newydd. Mae un atom o garbon, a dau atom o ocsigen yn ymuno er mwyn creu carbon deuocsid, neu CO2.

Dros filiynau o flynyddoedd, mae anifeiliaid a phlanhigion marw yn cael eu cywasgu o dan gramen y ddaear a gwely'r môr. Maen nhw'n cael eu cywasgu dros gyfnodau hir o amser, o dan bwysedd ac mewn gwres, nes troi i mewn i danwydd ffosil - sydd yn llawn carbon.

Mae tanwydd ffosil yn cynnwys glo, olew a nwy, ac mae'n rhaid tyllu'n bell o dan y ddaear, neu wely'r môr, i nôl y tanwyddau hyn.

 
Pan mae'r tanwyddau hyn yn cael eu llosgi, boed yn ein boeleri, yn ein tanau agored, yn ein ceir, neu mewn pwerdai i gynhyrchu trydan, mae'r carbon yn ymuno ag ocsigen i greu carbon deuocsid. Felly, wrth losgi tanwydd ffosil, rydym yn rhyddhau carbon deuocsid i'r atmosffer.     

Tudalen Nesaf - Sut mae mesur CO2?

 

Cyngor Carbon Isel > Gwynedd Carbon Isel

Cysylltu â ni

01286 679266

Uned Cadwraeth Ynni, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH