Beth yw 'Ôl-troed Carbon’?

Rydym yn defnyddio'r term 'ôl-troed carbon' i ddisgrifio'r CO2 yr ydym ni'n gyfrifol am ei ryddhau i'r atmosffer o ganlyniad i'n gweithgareddau.

Pan soniwn am ‘ôl-troed carbon’, mae'n bwysig ein bod yn egluro beth yn union yr ydym ni'n ei gynnwys.

Fel trigolion, mae ein hôl-troed carbon yn cynnwys pethau fel defnydd ynni ein cartref; ein dulliau teithio; y math o fwyd rydym yn ei fwyta; faint o wastraff rydym yn ei gynhyrchu neu'n ailgylchu; a'r pethau rydym yn eu prynu o ddydd i ddydd.

Tybed beth oedd ôl-troed carbon eich gweithgareddau chi dros y flwyddyn ddiwethaf? Cymerwch brawf ôl-troed carbon WWF i'w ddarganfod: http://footprint.wwf.org.uk/                                                                                        

                                                                                                                                                                                 Logo BGLl (2)

Cyngor Carbon Isel > Gwynedd Carbon Isel

Cysylltu â ni

01286 679266

Uned Cadwraeth Ynni, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH